Win a Golden Ticket! | Cyfle i Ennill Tocyn Aur!
Time remaining:
OPEN

Win a Golden Ticket! | Cyfle i Ennill Tocyn Aur!

Ends on Tuesday 30th June 2026 at 23:59:59

Details

To celebrate our 50th anniversary, we are running a sparkling raffle to give you the chance to win one of 6 golden tickets for an exciting experience here at the theatre.

I ddathlu ein pen-blwydd ni yn 50 oed, rydyn ni’n cynnal raffl wych i roi cyfle i chi ennill un o 6 thocyn aur am brofiad cyffrous yma yn y theatr.

Prizes below | Gwobrau isod


All proceeds from the raffle will go towards the transformative work we do with our communities.

Bydd yr holl elw o'r raffl yn mynd tuag at y gwaith trawsnewidiol rydyn ni’n ei wneud gyda'n cymunedau ni.


Prizes are non transferable.

Nid yw'r gwobrau'n drosglwyddadwy.


Watch Pinocchio from our private box on Christmas Eve | Cyfle i wylio Pinocchio o'n Bocs Preifat ni ar Noswyl Nadolig

Prize includes ticket and private use of the box for up to 12 people | Mae'r wobr yn cynnwys tocyn a defnydd preifat o'r bocs ar gyfer hyd at 12 o bobl.

Six-month cinema pass for two | Tocyn sinema chwe mis i ddau

Two complementary tickets to the cinema every month for 6 months. | Dau docyn am ddim i'r sinema bob mis am 6 mis.

Backstage Pass to see parts of the building that are usually off limits | Tocyn Cefn Llwyfan i weld rhannau o'r adeilad nad oes posib eu gweld fel arfer

Guided private backstage tour for up to 10 people, date to be agreed. | Taith gefn llwyfan breifat, dywys ar gyfer hyd at 10 o bobl, y dyddiad i'w gytuno.

Prosecco Afternoon Tea for 4 at Bryn Williams @ Theatr Clwyd | Te prynhawn Prosecco i 4 ym mwyty Bryn Williams yn Theatr Clwyd

A voucher for 4 people to have a Prosecco afternoon tea at Bryn Williams@Theatr Clwyd. | Taleb i 4 o bobl gael te prynhawn Prosecco yn Bryn Williams yn Theatr Clwyd.

See a Panto technical rehearsal and watch the magic come to life | Cyfle i weld ymarfer technegol o’r Panto a gwylio’r hud yn dod

Invitation to watch a technical rehearsal of Pinocchio. The date will be confirmed nearer the time, and the event takes place during the afternoon. | Gwahoddiad i wylio ymarfer technegol o Pinocchio. Bydd y dyddiad yn cael ei gadarnhau'n nes at yr amser, a bydd yn digwydd yn ystod y prynhawn.

A bottle of Penderyn Whisky* and tour for 4 of the Llandudno Distillery | Potel o Wisgi Penderyn* a thaith o Ddistyllfa Llandudno i 4

* RRP/RPA £80. One bottle of 'Serpent’s Tears' Whiskey and 4 complimentary adult passes to take a tour of Penderyn's Llandudno Distillery |Un botel o Wisgi 'Serpent's Tears' a 4 tocyn am ddim i oedolion i fynd ar daith o amgylch Distyllfa Penderyn yn Llandudno.
Terms and conditions of Raffle participation:

The Terms and Conditions shall be governed by English law, and all parties are deemed to submit to the exclusive jurisdiction of the courts of England and Wales. The Terms and Conditions assume that you have acted like a prudent individual. If you choose to participate in this competition without taking normal precautions, you do so at your own risk. Theatr Clwyd does not offer any competitions in any jurisdiction where such an offer or solicitation is unlawful or would impose any unfulfilled registration, qualification, publication, or approval requirements. It is your responsibility to ensure that you are not located in a jurisdiction where it is not unlawful for you to enter or participate in such competitions.

1. By purchasing an entry you agree to these terms and conditions. Any participation instructions form part of these terms and conditions. Any entry not complying with these terms and conditions will be invalid. Theatr Clwyd's decisions pursuant to these terms and conditions shall be final and binding.

2. You represent and agree that:
a. You are 18 years of age or over.
b. You are a resident of the United Kingdom.
c. You will not buy or purport to buy an entry in this raffle on behalf of anybody under the age of 18.
d. You will provide accurate entry information, including your name and personal address

3. You agree that you shall not be entitled to receive any prize if you are unable to substantiate to the Promoter your representations under paragraph 2.

4. Entry is open to all residents of the UK.

5. Entry costs £5.00 per play, payable in advance. Entries may not be sold to or by anyone under 18 years of age. Each ticket represents one entry only.

6. Theatr Clwyd may (without giving any reason or notice, at its absolute discretion) terminate or suspend the raffle.

7. The Win a Golden Ticket! | Cyfle i Ennill Tocyn Aur! Raffle draw will be conducted on 30/06/2026, or if this is not possible, on the next working day. The draw takes place with the winner being chosen by random. The results of the draw are final.

8. All participants will be notified once the draw has been made. A list of winning ticket numbers will be made available within 7 days of the draw, unless there are delays in contacting the winners, in which case the list will be made available as soon as the winners' names are finalised. There are no alternatives to any prize except where stated and no interest is payable.

9. Theatr Clwyd reserves the right to substitute a prize for a prize of equivalent or greater value, or at its sole discretion, the cash value of a prize, if this is necessary for reasons beyond Theatr Clwyd’s control.

10. Theatr Clwyd would like you to gamble responsibly.

11. If you feel you have a problem with gambling, visit www.begambleaware.org or call the National Gambling Helpline on 0808 8020 133.

12. This raffle is the responsibility of Theatr Clwyd, Raikes Lane, Mold, Flintshire CH7 1YA. Registered with Flintshire County Council in accordance with the Gambling Act 2005 – Small Society Lottery regulations. Small Society Lottery Registration Number: SL0641


-------------------------------------------------------------------------------------------------------

Bydd y Telerau a’r Amodau’n cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr, ac ystyrir bod pob parti yn cadw at awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr. Mae'r Telerau a’r Amodau yn tybio eich bod wedi ymddwyn fel unigolyn doeth. Os byddwch yn dewis cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon heb gymryd y rhagofalon arferol, rydych yn gwneud hynny ar eich risg eich hun. Nid yw Theatr Clwyd yn cynnig unrhyw gystadlaethau mewn unrhyw awdurdodaeth lle mae cynnig neu ddeisyfiad o'r fath yn anghyfreithlon neu'n gosod unrhyw ofynion cofrestru, cymhwyso, cyhoeddi neu gymeradwyo heb eu cyflawni. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad ydych wedi eich lleoli mewn awdurdodaeth lle nad yw'n anghyfreithlon i chi gymryd rhan mewn cystadlaethau o'r fath.

1. Drwy brynu ymgais rydych yn cytuno i'r telerau a’r amodau hyn. Mae unrhyw gyfarwyddiadau cyfranogiad yn rhan o'r telerau a’r amodau hyn. Bydd unrhyw ymgais nad yw'n cydymffurfio â'r telerau a’r amodau hyn yn annilys. Bydd penderfyniadau Theatr Clwyd yn unol â'r telerau a’r amodau hyn yn derfynol ac yn rhwymol.

2. Rydych yn datgan ac yn cytuno: a. Eich bod yn 18 oed neu'n hŷn. b. Eich bod yn breswylydd yn y Deyrnas Unedig. c. Na fyddwch yn prynu nac yn ceisio prynu ymgais yn y raffl hon ar ran unrhyw unigolyn o dan 18 oed. d. Y byddwch yn darparu gwybodaeth fanwl gywir wrth ymgeisio, gan gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad personol.

3. Rydych yn cytuno na fyddwch yn gymwys i dderbyn unrhyw wobr os na allwch brofi eich datganiadau o dan baragraff 2 i'r Hyrwyddwr.

4. Mae ymgeisio ar agor i holl drigolion y DU.

5. Mae ymgeisio’n costio £5.00 y tro, yn daladwy ymlaen llaw. Ni chaniateir gwerthu unrhyw ymgais i unrhyw unigolyn o dan 18 oed na gan unrhyw unigolyn o dan 18 oed. Mae pob tocyn yn cynrychioli un ymgais yn unig.

6. Gall Theatr Clwyd (heb roi unrhyw reswm na rhybudd, yn ôl ei disgresiwn llwyr) derfynu neu atal y raffl.

7. Bydd y raffl Cyfle i Ennill Tocyn Aur! | Win a Golden Ticket! yn cael ei chynnal ar 30/06/2026, neu os nad yw hyn yn bosibl, ar y diwrnod gwaith nesaf. Mae’r raffl yn cael ei chynnal gyda'r enillydd yn cael ei ddewis ar hap. Mae canlyniadau'r raffl yn derfynol.

8. Bydd pob cyfranogwr yn cael gwybod unwaith bydd y raffl wedi'i chynnal. Bydd rhestr o rifau’r tocynnau buddugol ar gael o fewn 7 diwrnod i gynnal y raffl, oni bai fod oedi wrth gysylltu â'r enillwyr, ac yn yr achos hwnnw bydd y rhestr ar gael cyn gynted ag y bydd enwau'r enillwyr yn derfynol. Nid oes unrhyw ddewisiadau eraill yn lle unrhyw wobrau, ac eithrio lle nodir yn wahanol, ac nid oes unrhyw log yn daladwy.

9. Mae Theatr Clwyd yn cadw'r hawl i roi gwobr o werth cyfatebol neu fwy yn lle unrhyw wobr, neu, yn ôl ei disgresiwn llwyr, gwerth y wobr mewn arian parod, os yw hyn yn angenrheidiol am resymau y tu hwnt i reolaeth Theatr Clwyd.

10. Hoffai Theatr Clwyd eich gweld yn gamblo'n gyfrifol.

11. Os ydych chi'n teimlo bod gennych chi broblem gamblo, ewch i www.begambleaware.org neu ffoniwch y Llinell Gymorth Gamblo Genedlaethol ar 0808 8020 133.

12. Theatr Clwyd, Lôn Raikes, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1YA sy’n gyfrifol am y raffl hon. Wedi'i chofrestru gyda Chyngor Sir y Fflint yn unol â Deddf Gamblo 2005 – rheoliadau Loteri’r Cymdeithasau Bach. Rhif Cofrestru Loteri’r Cymdeithasau Bach: SL0641